Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Medi 2016
Amser: 09.00 -
10.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3702
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
Margaret Hutcheson, Deisebydd |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Jessica England (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o drafodion y cyfarfod (PDF 165KB). Gweld fel HTML(177KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio bod y Pwyllgor Menter a Busnes ar y pryd wedi cyfarfod i drafod y materion a oedd yn ymwneud â TATA Steel ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, cytunodd i ofyn i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a yw’n bwriadu ystyried y mater ymhellach, ac os felly, a fyddai’n cynnwys y materion a godwyd gan y ddeiseb fel rhan o’r ystyriaeth honno.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Faes Awyr Caerdydd, yn gofyn am eu barn ar y cynnig penodol, ac ynghylch a yw wedi ystyried yr egwyddor o enwi’r maes awyr ar ôl person blaenllaw o Gymru.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio y gallai cyhoeddi cronfa driniaeth newydd fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan y ddeiseb, cytunodd i ofyn am farn y deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio y bydd y cynllun benthyciadau i fyfyrwyr ôl-raddedig ar waith ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017-18, cytunodd i gau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
· Yn gofyn am amserlen fwy penodol ar gyfer yr adolygiad y mae ei swyddogion yn ei gynnal ar hyn o bryd, ac yn gofyn bod y Pwyllgor yn cael gwybod cyn gynted ag y mae canlyniadau’r adolygiad ar gael; ac
· Gan ddwyn i’w sylw sylwadau penodol y deisebydd sy’n gofyn am astudiaeth o ddarpariaeth lonydd goddiweddyd diogel, ac yn gofyn a fyddai modd iddynt gael eu hystyried fel rhan o’r adolygiad.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn barn y deisebydd am yr ymateb cadarnhaol yn gyffredinol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i’w chau ac wrth wneud hynny, anfon sylwadau’r deisebydd at Gyfoeth Naturiol Cymru cyn ymgynghoriad arfaethedig y corff hwnnw ar fesurau rheoli stoc eogiaid sydd i gael ei gynnal ar ddiwedd 2016 / dechrau 2017.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, o gofio bod y cynnig wedi’i ystyried a’i wrthod gan Lywodraeth Cymru, cytunodd i gau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf ac, o ystyried yr ymateb cadarnhaol gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, cytunodd i gau’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:
· Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn os bydd canllawiau yn cael eu llunio ar y manteision y gall coed eu cynnig mewn trefi a dinasoedd ac ar wella brigdwf;
· Cyfoeth Naturiol Cymru i ofyn pa gefnogaeth y mae’n ei ddarparu ar gyfer plannu coed stryd unigol mewn trefi a dinasoedd.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i ofyn i’r deisebydd a Chyfoeth Naturiol Cymru p’un a ydynt wedi llwyddo i ddod i gytundeb, ac ystyried camau pellach yng ngoleuni’r ymateb.
Datganodd Janet Finch-Saunders y buddiant a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae hi’n hyrwyddwr y llamhidydd harbwr.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ac o ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ac, yng ngoleuni ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac mai ychydig yn fwy y gallai’r Pwyllgor ei wneud i symud y mater ymlaen, cytunodd i gau’r ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac, yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor blaenorol, cytunodd i gau’r ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru ac, o gofio nad oedd dim pellach y gallent ei wneud i symud y mater ymlaen, cytunwyd i gau’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunodd hefyd i ofyn i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ystyried y ddeiseb yn ystod ei waith craffu arfaethedig ar waith Comisiynydd y Gymraeg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn:
· a fydd hi’n ystyried rhoi canllawiau i awdurdodau lleol, fel yr awgrymwyd gan y deisebydd; ac
· a yw hwn yn faes lle y mae angen rhagor o waith ymchwil, ac a fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymchwil o’r fath.
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ochr yn ochr ag eitem agenda 2.9 (P-05-708 i Wneud Iechyd Meddwl yn Rhan o’r Cwricwlwm) a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Simon Mann, Pennaeth Adran Dosimetreg Ymbelydredd y Ganolfan Peryglon Ymbelydredd, Cemegolion a Pheryglon Amgylcheddol ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd cyn penderfynu a ddylid gofyn am ddadl ar y mater yn y Cyfarfod Llawn.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i ysgrifennu at y deisebwyr, a oedd wedi’u gwahodd i fod yn rhan o grŵp gorchwyl a gorffen a oedd i gael ei sefydlu i ddatblygu strategaeth dementia, i ofyn iddynt annog y rhai sydd wedi llofnodi’r ddeiseb i roi eu barn ar y strategaeth pan gaiff ymgynghoriad ei chynnal arni.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd ac, fel y gofynnwyd gan y deisebwyr, cytunodd i gadw’r ddeiseb ar agor ac i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet a’r deisebwyr eto yn ddiweddarach yn yr hydref i gael adroddiad ar gynnydd.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a chytunodd i ysgrifennu ato, yn mynegi siom ynghylch yr oedi wrth symud ymlaen â’r archwiliad diogelwch ffyrdd cam 4, ac yn gofyn iddo am amserlen fwy pendant.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ac, o ystyried y wybodaeth ddefnyddiol a gafwyd yn yr ymateb, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd cyn penderfynu sut i weithredu ar y ddeiseb.
Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynghyd â sylwadau gan Nick Ramsay AC a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i gael eglurhad ynghylch:
· Cynlluniau i godi rhwystr sŵn ochr yn ochr â rhan o’r A40;
· A yw’n dal yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i roi wyneb newydd ar yr adran hon o’r A40, fel y nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar Sŵn 2013-2018.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd, a chan iddynt deimlo na allent wneud rhagor i fynd â’r ddeiseb yn ei blaen, cytunwyd i gau’r ddeiseb.
Atebodd y deisebydd gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
Nododd y Cadeirydd y trefnwyd i’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 27 Medi, a chytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu ati i ofyn am ragor o wybodaeth am y gost a amcangyfrifir ar gyfer cyflwyno sgrinio ar gyfer canser yr ofari yng Nghymru gan ddefnyddio prawf gwaed CA125.